Menter sydd yn anrhydeddu gweledigaeth Dr Carl Clowes’ am gartref cymunedol ar gyfer y 7000 iaith sydd yn y byd

Ar Fawrth 9fed 2026, bydd diwrnod o gyd-drafod a chyd-greu yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, gan ddod â thua 50 o ymarferwyr Cymreig a rhyngwladol ynghyd i gychwyn cyd-ddylunio fframwaith ymarferol ar gyfer adfywio ieithoedd Brodorol byd-eang drwy’r celfyddydau.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu mewn partneriaeth rhwng Aberyswyth Ceredigion a Celfyddydau Rhyngwladol i anrhydeddu gweledigaeth y diweddar Dr Carl Clowes, eiriolwr diwylliannol Cymreig amlwg a sefydlodd y Ganolfan Iaith Genedlaethol yn Nant Gwrtheyrn.

Mae’r fideo uchod yn ddetholiad o ffilm am gyfansoddiad clasurol Cian Ciaran, Rhys a Meinir, sy’n ailadrodd y chwedl Gymreig o Nant Gwrtheyrn. Sefydlwyd y Ganolfan Iaith Genedlaethol yn y Nant gan Dr Carl Clowes, ac mae ei weledigaeth ar gyfer Canolfan hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol ar gyfer 7000 o Ieithoedd – canolfan fyd-eang sy’n ymroddedig i gynnal ieithoedd Brodorol y byd trwy ymarfer creadigol, ymchwil a phartneriaeth ryngwladol. Mae ei weledigaeth ar gyfer hyn wedi’i gyflwyno yn y ddogfen isod a ysgrifennwyd ganddo yn 2017.

7000 o Ieithoedd

Dathlu llwyddiant mwyar y ddynolryw

Ymhle bynnag y bydd rhywun yn teithio yn y byd, bydd modd clywed ieithoedd yn cael eu siarad heb wybod y nesaf peth i ddim am y syniadau maen nhw’n eu mynegi, a llai fyth am darddiad yr ieithoedd hynny. I’r mwyafrif llethol ohonon ni, dydy hynny’n ddim syndod o gwbl, a chofio bod tua 7000 o ieithoedd yn bodoli yn y pedwar ban heddiw. O Cambodia i Wlad yr Iâ, o Lesotho i Siberia, rwyf wedi bod yn dyst i allu’r ddynolryw i gyfathrebu mewn cynifer o ffyrdd gwahanol, ac wastad wedi rhyfeddu at hynny. Onid dyma un o nodweddion hynotaf y byd sydd ohoni yn yr unfed ganrif ar hugain? Mae’n dipyn o drysor, yn wir.

Ond beth yw tarddiad iaith? Dyma bwnc sy’n fater cryn grafu pen. Dydy’r cofnodion ysgrifenedig cynharaf o iaith yn ddim hŷn na 4,000 i 5,000 o flynyddoedd oed. Ceir damcaniaethau rif y gwlith am darddiad iaith. Ai esblygu’n barhaus wnaeth hi o seiniau cynharach mwy cyntefig – damcaniaeth y ‘parhad’? Ynteu ai datblygu’n fwy sydyn a disymwth fu’i hanes?

Beth bynnag fo’i tharddiad, sut mae rhywun yn bwrw ati i ddiffinio iaith? Yn ôl un disgrifiad, dyma “system o symbolau llafar, symbolau llaw neu symbolau ysgrifenedig confensiynol a ddefnyddir gan fodau dynol fel aelodau o grŵp cymdeithasol a chyfranogwyr yn niwylliant y grŵp hwnnw i’w mynegi’u hunain”. Mewn geiriau eraill, dyna i chi’r gân sy’n tynnu deigryn, y straeon yr adroddodd eich mam a’ch tad wrthych chi, dawn gwleidydd i ddwyn perswâd, y cariad a ddangoswch chi at eich teulu, y chwyldroadwr sy’n tanio’r dychymyg, areithiau Martin Luther King, neu hyd yn oed siant bêl-droed gyffredin. Hynny yw, byddai bywyd dynol yn ei ffurf bresennol yn amhosibl heb fod gennyn ni iaith.

O blith 7,000 o ieithoedd brodorol y byd, mae deuddeg ohonyn nhw’n cael eu siarad gan ddau draean y boblogaeth. Neu dyma ffordd arall o edrych ar hynny: dim ond 3% o boblogaeth y byd sy’n siarad 96% o’r holl ieithoedd a gaiff eu siarad heddiw. Mae gan Tsieineeg fwy o siaradwyr brodorol nag unrhyw iaith arall, sef 873 miliwn. Ar ei hôl hi, daw Hindi gyda 370 miliwn a Sbaeneg gyda 350 miliwn. Saesneg sydd nesaf gyda 340 miliwn o siaradwyr brodorol.

Amrywio mae’r cyfandiroedd o ran nifer yr ieithoedd sy’n cael eu siarad arnyn nhw. Asia sydd â’r nifer mwyaf, sef 2,301, ac Affrica’n dynn ar ei sodlau gyda 2,138. Ceir tua 1,300 o ieithoedd yn rhanbarth yr Môr Tawel a 1,064 yn Ne a Gogledd America. Ar y llaw arall, er ei holl aelod-wladwriaethau, dim ond 286 o ieithoedd sydd gan Ewrop. O fewn yr Undeb Ewropeaidd, ceir 60 o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol sy’n cael eu siarad gan 46 miliwn o bobl. Y disgwyl yw y bydd pymtheg o’r ieithoedd hyn yn marw o fewn y ddwy genhedlaeth nesaf. Nepell o fan hyn, bu farw’r siaradwr Cernyweg brodorol olaf yn 1777, a bu farw’r siaradwr Manaweg olaf yn 1974. Nid yw hyn yn dibrisio’r ymdrechion glew sy’n cael eu gwneud heddiw i adfer tynged yr ieithoedd Celtaidd hyn.

Ym mhen mwyaf bregus y sbectrwm, rhyngddyn nhw nid oes mwy na miliwn o bobl yn siarad 500 o ieithoedd lleiaf cyffredin y byd. Mae gan 2,000 o ieithoedd lai na 1,000 o siaradwyr brodorol. Mae’r rhan fwyaf o’r ieithoedd hyn yn dirywio, ac yn ôl amcangyfrifon UNESCO, bydd hanner holl ieithoedd y byd wedi diflannu erbyn diwedd y ganrif hon. Bydd tranc ieithoedd yn taro rhai gwledydd a rhanbarthau’n drymach nag eraill. Yn fyd-eang, mae disgwyl colli’r mwyaf o ieithoedd yn Affrica Is-Sahara, coedwig law’r Amazon, Oceania, Awstralia a De-ddwyrain Asia. Yn Unol Daleithiau America, mae nifer o ieithoedd dan fygythiad ar hyd arfordir y gorllewin ac yn nhiriogaethau pobl frodorol yn y gorllewin canol. Mae nifer o ieithoedd eisoes wedi diflannu o’r tir – tua’r un faint, efallai, ag sydd wedi goroesi heddiw.

Oes gwir ots am hynny? Bydd pobl yn aml yn honni mai dim ond ffordd o gyfathrebu yw iaith. Ond siawns mai iaith yw’r cyfrwng pennaf hefyd i feithrin y meddwl? O ganlyniad, mae amrywiaeth ieithoedd yn creu amrywiaeth diwylliant tra chyfoethog. Onid oes gan bob iaith ddiwylliant hefyd, a hwnnw’n rhan o dapestri gwerthfawr rydyn ni wedi’i etifeddu? Yn yr un modd, onid yw pob iaith yn cynrychioli rhan hollbwysig o ecosystem lle bydd cydberthynas rhwng yr amgylcheddau corfforol, diwylliannol ac economaidd? Sut gall unigolyn deimlo’n hyderus pan fydd ei holl hunaniaeth dan fygythiad? Os bydd iaith a diwylliant rhywun yn cael eu herydu’n gyson, neu’n wynebu difodiant hyd yn oed, sut yn y byd y mae hyn yn creu cymdeithas iach? Cymdeithas lle bydd dinasyddion yn teimlo bod ganddyn nhw unrhyw rym? Cwbl ofer yw gwarchod un o’r elfennau hyn yn ein hamgylchedd heb roi sylw i’r lleill.

Beth felly yw’r ffactorau sy’n dylanwadu ar oroesiad neu ddiflaniad iaith? A allwn ni atal rhagor o ieithoedd rhag diflannu? Mae angen deall y dirywiad hwn a mynd i’r afael ag o.

Statws

Gall statws iaith gael effaith aruthrol ar yr hyn a fydd yn digwydd iddi, ac yn wir ar ei goroesiad. Er nad siaradwyr Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg yw’r mwyaf cyffredin, y rhain serch hynny yw ieithoedd mwyaf gwasgaredig y byd. Mae’r sefyllfa hon yn adlewyrchu gorffennol ymerodrol y cenhedloedd y tarddodd yr ieithoedd hyn ohonyn nhw: cenhedloedd a orfododd eu patrymau gweinyddol ac addysgol ar y trefedigaethau yr oedden nhw’n eu llywodraethu. Roedd goblygiadau amlwg i’r broses hon o orfodi diwylliant ar bobl. Saesneg, fodd bynnag, yw’r iaith sy’n cael ei hastudio fwyaf yn y byd heddiw, ac mae hynny’n adlewyrchiad o statws economaidd y diwylliant a’r farchnad Eingl-Americanaidd. Mae mwy o bobl bellach yn dysgu Saesneg na Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Japaneeg, Almaeneg a Tsieineeg gyda’i gilydd.

Er gwaethaf hyn, mae’n ymddangos bod dyfodol a statws Ieithoedd Llai yn dibynnu’n drwm ar nifer ei siaradwyr heddiw. Mae cydnabyddiaeth ddeddfwriaethol neu gyfansoddiadol hefyd yn ffactor, a gall hyn amrywio o’r naill wlad i’r llall. Gall gwaith cyrff rhyngwladol hefyd fod yn dra phwysig. Ystyrier, er enghraifft, “Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop”, y mae 25 o wladwriaethau Ewrop wedi’i llofnodi. Mae’r cynllun hwn gan Gyngor Ewrop, gyda chefnogaeth Senedd Ewrop, wedi rhoi hwb i statws Ieithoedd Llai, er nad yw’r holl wladwriaethau wedi cadarnhau eu hymrwymiad i’r Siarter.

A dyna i chi wedyn ddylanwad dulliau cyfathrebu modern a’r cyfryngau torfol ar ieithoedd lleiafrifol. Mae angen i fyd busnes allu cyfathrebu, ond wrth i’r byd busnes hwnnw ddod yn fwy byd-eang ei natur nag erioed, mae’r pwysau i wella’r gallu i gyfathrebu’n cynyddu. Paradocs sy’n ein hwynebu wedyn. Mae digwyddiadau gwleidyddol diweddar yn y wlad hon, ac mewn mannau eraill, o bosibl yn adlewyrchu rhai o’r pryderon wrth i gymunedau fynnu ailddatgan eu hunaniaeth yn sgil y diwylliant cynyddol unffurf o’u cwmpas.

Mae Cymru a’r Gymraeg yn astudiaeth achos hanesyddol dda dros ben wrth edrych ar y dylanwadau uchod. Dim ond 2% o’r Ddeddf Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 oedd yn cyfeirio at y Gymraeg, ond paratôdd hynny’r llwyfan am ganrifoedd i ddod, ac mae’r sgil-effeithiau yn dal i’w teimlo heddiw. Saesneg fyddai unig iaith y llysoedd yng Nghymru, a fyddai dim hawl gan siaradwyr Cymraeg i gael swyddi cyhoeddus. Mewn realiti, Cymraeg oedd unig iaith trwch y boblogaeth, ond o ganlyniad i’r Ddeddf, cynyddodd cyfran y siaradwyr Saesneg yn hynod gyflym wrth i bobl geisio dygymod â’r drefn newydd a dod o hyd i waith. Yn 1847, mewn adroddiad ofnadwy gan Senedd Llundain – y Llyfrau Gleision – aethpwyd ati i ladd ar y Gymraeg a’i beio am dor-cyfraith mawr a diffyg moesau yng Nghymru. Nid yw’n syndod i bobl ddechrau ystyried y Gymraeg yn gyfrwng cwbl amhriodol ar gyfer addysg. Byddai disgyblion yn cael eu cosbi am siarad Cymraeg drwy’r ‘Welsh Not’ erchyll – darn o bren a fyddai’n crogi o wddf plentyn a gâi ei ddal yn siarad yr iaith, a’i drosglwyddo i’r plentyn nesaf a fyddai’n ‘euog’ o’r un ‘drosedd’. Ar ddiwedd y wers, byddai’r plentyn a chanddo’r pren yn ei feddiant yn cael ei guro. Er na fu hi fyth yn anghyfreithlon i bobl gyffredin siarad Cymraeg, am ganrifoedd, ni chafodd yr iaith chwaith unrhyw gefnogaeth na chydnabyddiaeth gan y llywodraeth. O ganlyniad, i bob diben, roedd i gonfensiwn yr un grym â deddfwriaeth. Er gwaethaf hynny, parhaodd y Gymraeg yn famiaith mwyafrif poblogaeth Cymru, a hwb mawr i hyn oedd y ffaith mai hi oedd iaith bron i holl gapeli anghydffurfiol y wlad. Dim ond yng Nghyfrifiad 1911, am y tro cyntaf mewn dwy fil o flynyddoedd, y daeth y Gymraeg yn iaith leiafrifol (43.5%) yn ei gwlad ei hun. Parhau i ddirywio wnaeth yr iaith drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Yn y 1960au, sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith, un o sefydliadau ymgyrchu ieithyddol mwyaf llwyddiannus Ewrop erioed. A dechreuwyd gweld tro ar fyd. Nid oes dwywaith y bydd haneswyr yn barnu mai dyma’r cyfnod pan ddechreuwyd y broses o ‘normaleiddio’r iaith’. Roedd y ‘Gymdeithas’ am weld newid ym mhob agwedd ar fywyd a ddylanwadai ar y Gymraeg – arwyddion ffordd, y maes tai, ar y teledu ac ati – a bu’n galw am ddeddfwriaeth i roi statws cyfreithiol llawn i’r iaith yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod rhwng 1960 a 1990, carcharwyd cannoedd o’i hymgyrchwyr am dorri’r gyfraith drwy weithredu uniongyrchol heb drais. Mae twf dwyieithrwydd a’r diddordeb yn yr iaith heddiw wedi deillio i raddau helaeth o’r ymdrechion a’r aberth a wnaed yn ystod y cyfnod hwn.

Pasiwyd Deddf Iaith Gymraeg gyfyngedig yn 1967, a honno’n rhoi dilysrwydd cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Grym ‘goddefol’ oedd i hyn i bob pwrpas. Yn gyfreithiol, golygai fod y llysoedd a rhai cyrff cyhoeddus yn derbyn y Gymraeg pan fyddai’n cael ei defnyddio. Ond prin, os o gwbl, oedd yr orfodaeth ar y sector cyhoeddus i fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau. Mewn geiriau eraill, nid oedd y Ddeddf yn gwneud defnyddio’r Gymraeg yn ‘normal’ o bell ffordd.

O ddiwedd y 1980au, bu consensws gwleidyddol cynyddol ynghylch yr iaith yng Nghymru. Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol bellach yn cynnwys darpariaeth sy’n golygu bod holl ddisgyblion y wlad yn astudio’r Gymraeg rhwng eu bod yn 5 ac 16 oed. Yn 1993, pasiwyd deddf arall, sef Deddf yr Iaith Gymraeg. Rhoddodd hon, am y tro cyntaf, statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Serch hynny, nid oedd y ddeddfwriaeth yn mynd i’r afael â materion fel cynllunio a thai – er bod y rheini mor hanfodol i ddatblygiad a goroesiad iaith. Yn yr un modd, nid oedd y ddeddfwriaeth yn rhoi sylw i symudedd pobl – i allfudiad siaradwyr Cymraeg na mewnfudiad pobl na allai siarad Cymraeg.

Mae dylanwad y cyfryngau torfol ac, yn fwy diweddar, y cyfryngau cymdeithasol, wedi bod yn ergyd i fwyafrif Ieithoedd Llai’r byd. Un o’r digwyddiadau mwyaf tyngedfennol yn hanes diweddar y Gymraeg oedd y penderfyniad i sefydlu S4C (Sianel 4 Cymru) yn 1982, gan ddatblygu ar lwyddiant Radio Cymru a sefydlwyd yn 1976. Mae’r cyfryngau hyn, yn ogystal â chyfnodolion ar-lein a phrint fel Golwg a Cymru Fyw, a’r swmp sylweddol o lyfrau Cymraeg sy’n cael eu cyhoeddi drwy Gyngor Llyfrau Cymru, i ryw raddau wedi bod yn wrthbwynt i effaith radio a theledu Saesneg.

Pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, dyna greu fforwm gwleidyddol a roddai gyfle delfrydol i ‘normaleiddio’r iaith’. Mae Cynulliad Cymru yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal “cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol”, ac mae wedi cyflwyno sawl polisi i sicrhau statws i’r iaith. Yn dra nodedig, bu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn goruchwylio’r broses o gyflwyno cynlluniau iaith yn y sector cyhoeddus, ac yn 2011, cyflwynwyd Mesur y Gymraeg i roi statws pellach i’r iaith. Serch hynny, mae’r canllawiau ym maes cynllunio a thai yn dal yn llai na digonol o ran eu heffaith ar yr iaith.

Yn fwy diweddar, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi disodli Bwrdd yr Iaith, ac wedi goruchwylio’r broses o gyflwyno ‘Safonau’ ar gyfer amrywiaeth eang o gyrff cyhoeddus – er nad pob un. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn dal i fod yn berthnasol i fwyafrif y cwmnïau cyfleustodau na chwmnïau eraill yn y sector preifat.

Wrth ysgrifennu’r geiriau hyn, mae’r strwythur llywodraethol presennol ym maes yr iaith ar fin cael ei ddisodli unwaith eto, er nad oes penderfyniad wedi’i wneud ynghylch sut y bydd hynny’n digwydd. Un peth sy’n glir, serch hynny, yw bod yr iaith, er gwaethaf y statws cryfach sydd ganddi mewn cyfraith, yn dal i wynebu heriau gwirioneddol bron i ugain mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Ceir cydnabyddiaeth gynyddol na all ‘statws swyddogol’ ar ei ben ei hun ‘achub’ iaith ddim mwy nag y gall dysgu’r iaith yn yr ysgol ei wneud. Dim ond drwy ei defnyddio ym mhob rhan o fywyd, yn gyhoeddus a phreifat, y gall y Gymraeg, fel pob iaith lai arall, oroesi. I hyn ddigwydd, bydd angen i’r gwahanol boblogaethau wneud eu hieithoedd yn rhan o’u bywydau, a hynny gan werthfawrogi mai dyna’u hiaith ‘genedlaethol’ neu frodorol nhw. Yn ein gwlad ni, nid oes dwywaith mai’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru sy’n bennaf cyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg yn y fath fodd.

Y Cynnig

Rhagymadrodd

Nid yw’r cynnig sy’n dilyn i’r gwangalon. Ni ddylid ystyried y datganiad hwn yn un amddiffynnol nac ymddiheurol, ond yn hytrach fel cyfiawnhad dros brosiect hynod o uchelgeisiol sy’n dyrchafu ieithoedd llai i le uwch wrth ystyried eu statws yn y byd.

Siawns bod yn rhaid gwarchod a hybu’r holl ieithoedd gwahanol sydd gennyn ni heddiw gyda’r un egni a ddangoswn wrth warchod yr amgylchedd corfforol? Mae’r ieithoedd hyn yn wynebu pwysau nid annhebyg o ganlyniad i rymoedd globaleiddio. Mae’n ddyletswydd ar y genhedlaeth hon i sicrhau bod cyfoeth y diwylliant a geir yn ieithoedd brodorol y byd yn cael ei warchod er budd cenedlaethau’r dyfodol. Nid oes dwywaith y byddai’r byd yn lle llai diddorol, ac yn lle tristach, o symud yn gynyddol at ddiwylliant unffurf. Bradychu ein treftadaeth fyddai hynny.

Gan edrych i’r dyfodol, dylai’r gyfres helaeth o bolisïau sy’n angenrheidiol i ddiogelu dyfodol ac amrywiaeth yr ieithoedd sy’n goroesi ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain gynnwys polisïau sy’n rhoi sylw i’r canlynol:

  • cynyddu ymwybyddiaeth o fodolaeth a chyfraniad yr ieithoedd wrth gyfoethogi ein treftadaeth dorfol
  • cyrff llywodraethol a sefydliadau’r wladwriaeth yn cydnabod bodolaeth Ieithoedd Llai o fewn eu tiriogaethau ac yn deall yr holl gyfleoedd maen nhw’n eu cynnig i rymuso a hybu lles eu pobl
  • gwella proffil Ieithoedd Llai, sy’n hanfodol i gyflawni’r uchod. Bydd angen cydlynu’r polisïau hyn; bydd angen i waith ‘marchnata’ fod yn hynod o effeithiol; a bydd angen mwy o gydweithredu nag o’r blaen wrth ymchwilio i’r her seicolegol o wrthdroi’r tueddiadau presennol, gan fwrw ati’n fwy effeithiol ar sail hynny

Sut y mae modd cyflawni’r uchod?
Dim ond drwy weledigaeth y gellir gofalu am les Ieithoedd Llai – gweledigaeth sy’n uchelgeisiol ac yn greadigol ac sy’n edrych ymhell y tu hwnt i’r sefyllfa heddiw. Yn sail i’r weledigaeth, bydd angen diben cwbl eglur, gwaith ymchwil o’r radd flaenaf, adnoddau i sicrhau bod modd gwneud y gwaith eirioli angenrheidiol, a digon o gyllid i roi pwyslais dynamig ar gydlynu a gweithredu. Byddai modd dod â’r ymrwymiad hwn i 7000 o ieithoedd y byd ynghyd mewn Canolfan amlwg yma yng Nghymru.

Sut y bydd cyflawniadau’r Ganolfan yn cael eu mesur?
Bydd y Ganolfan yn dod yn sefydliad blaenllaw wrth ddehongli ieithoedd y byd ‘i’r byd’. Bydd rhaglen farchnata sylweddol yn ennyn chwilfrydedd cynyddol a pharodrwydd i gydnabod pwysigrwydd ieithoedd o’r fath. O ganlyniad, bydd y Ganolfan yn dod yn gyrchfan o bwys ac iddi gynulleidfa fyd-eang, wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.

O fewn pum mlynedd, bydd y Ganolfan yn cael ei chydnabod ar hyd ac ar led am ei gwaith eirioli dros Ieithoedd Llai. Byddai hyn yn berthnasol nid yn unig ym mharthau traddodiadol yr ieithoedd hyn, ond hefyd yng nghoridorau grym rhyngwladol, lle mae modd cael dylanwad.

Lle nad oes gwaith cynllunio ieithyddol yn cael ei wneud er budd yr Ieithoedd Llai heddiw, bydd hynny’n dechrau digwydd i ddiogelu’u dyfodol. Gall y Ganolfan hwyluso pethau yn y cyd-destun hwn, yn enwedig i’r ieithoedd hynny sy’n arbennig o fregus.

Yn ei hanfod, bydd y Ganolfan yn gwneud y gwaith canlynol:

  • Hybu
  • Ymchwilio
  • Cynghori a chefnogi

Y Ganolfan i 7000 o Ieithoedd

Bydd adeilad ac iddo statws eiconig yn gartref i’r Ganolfan. Fel yn achos y Guggenheim yn Bilbao neu’r Titanic Centre yn Belfast, bydd yr adeilad yn berl bensaernïol ac yn atyniad o bwys ynddo’i hun. Cynhelir cystadleuaeth bensaernïol ryngwladol i’w ddylunio, a bydd rhaid i’r adeilad adlewyrchu amgylchedd yr ardal a’i hanes. Bydd lleoliad yr adeilad, o reidrwydd, mewn ardal lle mae’r Gymraeg yn realiti o ddydd i ddydd i fwyafrif y boblogaeth. Bydd hyn yn gymorth i roi hygrededd a statws i’r Ganolfan. Bydd ymarferoldeb yr adeilad yn adlewyrchu’r amlinelliad uchod. Wrth ddod i mewn i’r Ganolfan, bydd yr ymwelydd yn cael ei gyfeirio’n bennaf at ddehongliad rhyngweithiol o Ieithoedd Llai; bydd opsiynau pellach yn ei gyfeirio at ardal ymchwil a chyfleuster ymgynghori/cynghori.

Mae’r cysyniad o ganolfannau deongliadol wedi hen ennill ei blwyf. Mae rhai o’r canolfannau hyn yn ysbrydoli, ond dydy’r mwyafrif ddim. Yr hyn sydd dan sylw yw rhywbeth sy’n mynd â’r dehongli hwnnw gam ymhellach, nid yn annhebyg i ganolfan eiconig y Titanic yn Belfast, sy’n dyrchafu’r stori i lefel ‘bersonol’, ac yn rhoi sylw i’r trawmâu dilynol a’r golled dorfol. Mae honno’n ganolfan rhyngweithiol sy’n cynnwys y gynulleidfa mewn ffordd ddeheuig iawn, ac yn arwain at brofiad bythgofiadwy. Rhaid i hynny fod yn nod wrth ddehongli’r trysor hwn, sef treftadaeth Ieithoedd Llai ein byd. Mae honno’n stori yr un mor drawiadol, ac eto mae’i goblygiadau hirdymor yn fwy arwyddocaol fyth.

Yr awgrym yw y dylai fod dwy gydran i’r elfen ddeongliadol:

  • Portread o 7000 o ieithoedd y byd
  • Cymru a’r Gymraeg

Dewch i ni edrych ar y naill a’r llall yn eu tro.

1. Portread o 7000 o ieithoedd y byd

Bwrw golwg ar ryfeddod mwyaf y byd, sef y 7000 o ffyrdd gwahanol y gall dyn gyfathrebu. Bydd yr ymwelydd yn cael ei ‘dywys’ o’r naill gyflwyniad i’r llall. Bydd cefndir sain, sy’n cynrychioli gwahanol ddiwylliannau neu agweddau ar iaith, yn croesawu’r ymwelydd bob tro. Gallai’r canlynol roi blas o’r profiad:

  • Cyflwyniad 1 – amrywiaeth o wynebau a lleisiau, yn cynrychioli ieithoedd o bob cyfandir. Mae’n bwysig bod y cyflwyniad hwn, o’r dechrau’n deg, yn cael effaith drawiadol fel bod y darlun yn cael ei greu a hwnnw’n rhoi tamaid i aros pryd cyn y wledd sydd i ddod
  • Cyflwyniad 2 – yn hollbwysig: beth yw iaith? Beth yw ei tharddiad, pam a sut mae’r ddynolryw wedi datblygu cynifer o ffyrdd o gyfathrebu?
  • Cyflwyniad 3 – portread o ieithoedd brodorol y byd heddiw – fesul cyfandir, gwlad, talaith a rhanbarth
  • Cyflwyniad 4 – nifer siaradwyr/gwasgariad demograffig pob iaith yn y byd; rhoi darlun o batrymau trefedigaethol y gorffennol a phatrymau masnachu heddiw
  • Cyflwyniad 5 – statws ieithoedd; ymatebion y wladwriaeth, yn gadarnhaol ac yn negyddol
  • Cyflwyniad 6 – polisïau i warchod/datblygu ieithoedd gan gynnwys rôl cyrff addysgol ac asiantaethau gwladwriaethol yn natblygiad ieithoedd; cymharu enghreifftiau
  • Cyflwyniad 7 – ieithoedd coll y byd/y rheini sydd ar fin diflannu
  • Cyflwyniad 8 – ymgyrchoedd ieithyddol; rhyfeloedd ieithyddol
  • Cyflwyniad 9 – y berthynas rhwng ethnigrwydd ac iaith pan fydd honno’n bodoli
  • Cyflwyniad 10 – y berthynas rhwng iaith a diwylliant; gyda’r cyfoeth sydd ar gael, gallai hon ddod yn thema sy’n esblygu gyda gwahanol gyflwyniadau dros gyfnod o amser
  • Cyflwyniad 11 – dylanwad y cyfryngau torfol, y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu ar y defnydd o ieithoedd, ar eu statws ac ar eu datblygiad
  • Cyflwyniad 12 – ‘eich barn chi’ – cyfle i’r gynulleidfa gyfrannu ymateb

2. Y Profiad Cymreig

Nid fel patrwm o lwyddiant di-ben-draw y bydd y profiad Cymreig i’w gyflwyno, ond yn hytrach fel iaith sydd wedi goroesi er ei bod hi’n bodoli y drws nesaf i Loegr, cartref yr Ymerodraeth Brydeinig ac un o ieithoedd mwyaf hollbresennol y byd. Mae goroesiad y Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg yn gyfiawnhad dros leoli’r Ganolfan yng Nghymru. Mae arwyddocâd y Saesneg heddiw yn amlwg, ac eto i gyd, mae i’r Gymraeg le amlwg ym meddylfryd y rhan fwyaf o bobl Cymru, boed nhw’n siaradwyr Cymraeg neu beidio.

Fformat tebyg i hwnnw a amlinellir yn 1) uchod a ddychmygir. Bydd cyfres o gyflwyniadau’n arwain yr ymwelydd ar siwrnai ieithyddol, gyda chaneuon, seiniau a cherddoriaeth sy’n cynrychioli agweddau amrywiol ar fywyd Cymru, yn hanesyddol ac yn gyfoes, yn gyfeiliant i hynny.

  • Cyflwyniad 1 – darlunio hanes yr iaith o’r chweched ganrif ymlaen a’i datblygiad yng nghyd-destun ehangach yr ieithoedd Celtaidd eraill. Cymraeg yw’r iaith a ddefnyddir fwyaf o’r holl ieithoedd Celtaidd
  • Cyflwyniad 2 – cynrychiolaeth weledol o ddemograffeg y Gymraeg heddiw, gan ddangos tueddiadau dros gyfnod o amser
  • Cyflwyniad 3 – yr ymateb i orthrwm ieithyddol. Gweledigaeth Michael D. Jones a sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia. Mordaith y Mimosa, gwaith arloesol yr ymsefydlwyr cynnar, ac effaith y Campana del Desierto ar bobl frodorol y Tehuelche a Mapuche. Iaith Patagonia heddiw a chydnabyddiaeth gyfoes i sefyllfa’r cymunedau Brodorol. Ymdrechion eraill i greu cymunedau Cymraeg y tu allan i Gymru
  • Cyflwyniad 4 – statws cyfreithiol yr iaith ers Deddf Uno 1536, gyda chyfeiriad penodol at rywfaint o hanes mwyaf ingol yr iaith, gan gynnwys Brad y Llyfrau Gleision yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, erchylltra’r Welsh Not ac arwyddocâd boddi Cwm Tryweryn
  • Cyflwyniad 5 – Gwaith William Salesbury a’r Esgob William Morgan yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac effaith hynny ar fywyd yng Nghymru
  • Cyflwyniad 6 – “Tynged yr Iaith” – y ddarlith enwog gan Saunders Lewis yn 1962. Sefydlu Cymdeithas yr Iaith, Adfer a grwpiau lobïo eraill a arweiniodd at nifer o ymgyrchoedd Cymraeg eraill ac at ‘normaleiddio’r iaith’ ymhellach. Carchariadau’r cyfnod hwn
  • Cyflwyniad 7 – polisi swyddogol y llywodraeth o’r cyfnod cyn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru hyd at heddiw; ymdrechion ‘swyddogol’ amrywiol i hybu’r iaith – Deddf Llysoedd Cymru 1942, Comisiwn Bowen 1972, Cyngor yr Iaith; gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg, awdurdodau cyhoeddus a’r trydydd sector. Y strategaeth iaith gynhwysfawr gyntaf a luniwyd gan y Fforwm Iaith Genedlaethol
  • Cyflwyniad 8 – y Gymraeg wedi’i hadlewyrchu yn chwedlau niferus Cymru – o’r Mabinogion i Rhys a Meinir, o Twm Sion Cati i Wylliaid Cochion Mawddwy
  • Cyflwyniad 9 – addysg yng Nghymru; y defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysg ar bob lefel o addysg. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. ‘Canolfannau’ iaith i blant mewnfudwyr
  • Cyflwyniad 10 – arddangosfa o ddiwylliant cyfoes sy’n unigryw i Gymru – eisteddfodau lleol a chenedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru, cwmnïau theatr, y Noson Lawen, Cymanfa Ganu, Talwrn y Beirdd, Cerdd Dant, traddodiad y Plygain, y Fari Lwyd, y diwylliant ‘pop’ bywiog Cymraeg……
  • Cyflwyniad 11 – portread o’r sefydliadau hynny sy’n unigryw i Gymru – Urdd Gobaith Cymru a’i ganolfannau yn Llangrannog a Glan-llyn, Merched y Wawr, S4C, Papurau Bro a’r diwydiant cyhoeddi llwyddiannus Cymraeg
  • Cyflwyniad 12 – cyfraniad y mudiad dysgu oedolion a ddatblygodd yn gyflym tu hwnt mewn amrywiol weddau ers y 1970au. Sefydlu ULPANim, CYD, PONT a’r Ganolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol hynod lwyddiannus yn Nant Gwrtheyrn – yr unig ganolfan breswyl barhaol ar gyfer dysgu’r iaith. Heddiw, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am gydlynu gweithgarwch rhanbarthol ar ran Llywodraeth Cymru
  • Cyflwyniad 13 – y Gymraeg mewn polisi ieithyddol; amrywiaeth o ymatebion gan gyrff y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Amlygu enghreifftiau o siaradwyr Cymraeg enwog – Syr Bryn Terfel, Aaron Ramsey, Joe Allen, Syr Gareth Edwards, Rhys Ifans, Alex Jones, Mathew Rhys, Ioan Gruffydd, Super Furry Animals…… a’r busnesau a’r cwmnïau hynny sy’n defnyddio’r iaith wrth eu gwaith
  • Cyflwyniad 14 – proffil hanesyddol o’r Cymry ar wasgar. Crybwyll, ymhlith eraill, Frank Lloyd Wright, Thomas Jefferson, John Harvard ac Elijah Yale. Y Cymry ar Wasgar a’u hymroddiad i’r iaith a chydnabod Ieithoedd Brodorol y tir roedden nhw’n cyfrannu at ei drefedigaethu
  • Cyflwyniad 15 – gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain; cenedl gwbl ddwyieithog. Ymrwymiad gan y gynulleidfa i ymateb i’r her.

Yn ogystal â’r uchod, bydd lle rheolaidd ar gyfer rhoi cyflwyniadau ar thema benodol, a honno’n newid. Ymhlith enghreifftiau posibl fyddai sefyllfa fregus cymuned ieithyddol dan fygythiad a’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd; statws newidiol Ieithoedd Llai yn Ewrop; cymharu polisïau pleidiau gwleidyddol – ar gyfer y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a Gwyddeleg, er enghraifft.

I gyd-fynd â’r gwaith pwysig hwn bydd Adran Ymchwil, a ddisgrifiwyd eisoes, tra bydd y Ganolfan hefyd yn gwneud gwaith Ymgynghori a Chynghori. Bydd cyfleoedd i gynnal digwyddiadau meithrin timau a digwyddiadau corfforaethol yno. Bydd yno gyfleuster hefyd i gynnal seminarau, a fydd yn creu rhagor o incwm, a hynny’n datblygu ar y cyfleoedd niferus a fydd yn deillio o enw da a statws ‘7000 o Ieithoedd’ fel Canolfan ddiwylliannol o’r pwys mwyaf ar y llwyfan rhyngwladol.

CIC 08 – xii – 17